Job 12 BWM

1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2 Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

3 Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

4 Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a'i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

5 Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â'i draed.

6 Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.

7 Ond gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

8 Neu dywed wrth y ddaear, a hi a'th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.

9 Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn?

10 Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.

11 Onid y glust a farna ymadroddion? a'r genau a archwaetha ei fwyd?

12 Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.

13 Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.

14 Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.

15 Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a'u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.

16 Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a'r twyllodrus.

17 Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.

18 Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.

19 Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn.

20 Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen.

21 Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion.

22 Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni.

23 Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a'u dwg hwynt i gyfyngdra.

24 Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.

25 Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42