Job 38 BWM

1 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,

2 Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth.

3 Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.

4 Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.

5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?

6 Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,

7 Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw?

8 A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o'r groth?

9 Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,

10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,

11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.

12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i'r wawrddydd ei lle,

13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?

14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.

15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.

16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?

17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?

18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.

19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,

20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i'w dŷ ef?

21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?

22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,

23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?

24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?

25 Pwy a rannodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,

26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?

27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?

28 A oes dad i'r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?

29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?

30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd.

31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?

32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a'i feibion?

33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?

34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?

35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?

36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i'r galon?

37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.

38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?

39 A elli di hela ysglyfaeth i'r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,

40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?

41 Pwy a ddarpar i'r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42