Job 11 BWM

1 A soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

2 Oni atebir amlder geiriau? ac a gyfiawnheir gŵr siaradus?

3 Ai dy gelwyddau a wna i wŷr dewi? a phan watwarech, oni bydd a'th waradwyddo?

4 Canys dywedaist, Pur ydyw fy nysgeidiaeth, a glân ydwyf yn dy olwg di.

5 Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,

6 A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â'r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd.

7 A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?

8 Cyfuwch â'r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?

9 Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr.

10 Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a'i rhwystra ef?

11 Canys efe a edwyn ofer ddynion, ac a wêl anwiredd; onid ystyria efe gan hynny?

12 Dyn gwag er hynny a gymer arno fod yn ddoeth; er geni dyn fel llwdn asen wyllt.

13 Os tydi a baratoi dy galon, ac a estynni dy ddwylo ato ef;

14 Od oes drygioni yn dy law, bwrw ef ymaith ymhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai:

15 Canys yna y codi dy wyneb yn ddifrychau; ie, byddi safadwy, ac nid ofni:

16 Oblegid ti a ollyngi dy ofid dros gof: fel dyfroedd y rhai a aethant heibio y cofi ef.

17 Dy oedran hefyd a fydd disgleiriach na hanner dydd; llewyrchi, a byddi fel y boreddydd.

18 Hyderus fyddi hefyd, oherwydd bod gobaith: ie, ti a gloddi, ac a orweddi mewn diogelwch.

19 Ti a orweddi hefyd, ac ni bydd a'th ddychryno, a llawer a ymbiliant â'th wyneb.

20 Ond llygaid yr annuwiolion a ddiffygiant, metha ganddynt ffoi, a'u gobaith fydd fel ymadawiad yr enaid.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42