1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,
2 A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â'r dwyreinwynt?
3 A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt?
4 Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw.
5 Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys.
6 Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a'th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn.
7 A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau?
8 A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun?
9 Beth a wyddost ti a'r nas gwyddom ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau?
10 Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a'r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na'th dad di.
11 Ai bychan gennyt ti ddiddanwch Duw? a oes dim dirgel gyda thi?
12 Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid,
13 Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw, a gollwng y fath eiriau allan o'th enau?
14 Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a'r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn?
15 Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a'r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef.
16 Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr?
17 Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a'r hyn a welais a fynegaf.
18 Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant:
19 I'r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.
20 Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.
21 Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.
22 Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.
23 Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.
24 Cystudd a chyfyngdra a'i brawycha ef; hwy a'i gorchfygant, fel brenin parod i ryfel.
25 Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd.
26 Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei darianau:
27 Canys efe a dodd ei wyneb â'i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau.
28 A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau.
29 Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear.
30 Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef.
31 Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef.
32 Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a'i gangen ni lasa.
33 Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.
34 Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr.
35 Y maent yn ymddŵyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a'u bol sydd yn darpar twyll.