Job 37 BWM

1 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o'i lle.

2 Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o'i enau ef.

3 Efe a'i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a'i fellt hyd eithafoedd y ddaear.

4 Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.

5 Duw a wna daranau â'i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.

6 Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.

7 Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.

8 Yna yr â y bwystfil i'w loches, ac y trig yn ei le.

9 O'r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd.

10 Â'i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.

11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.

12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.

13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i'w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.

14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.

15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?

16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth?

17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â'r deheuwynt?

18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?

19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.

20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.

21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a'u puro hwynt.

22 O'r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.

23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo'i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.

24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42