Job 22 BWM

1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

2 A wna gŵr lesâd i Dduw, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun?

3 Ai digrifwch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd?

4 Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn?

5 Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a'th anwireddau heb derfyn?

6 Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion.

7 Ni roddaist ddwfr i'w yfed i'r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.

8 Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a'r anrhydeddus a drigai ynddi.

9 Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd.

10 Am hynny y mae maglau o'th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di;

11 Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a'th orchuddiant.

12 Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt.

13 A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy'r cwmwl tywyll?

14 Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.

15 A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir?

16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy.

17 Hwy a ddywedasant wrth Dduw, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna'r Hollalluog iddynt hwy?

18 Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi.

19 Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a'r diniwed a'u gwatwar hwynt.

20 Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy.

21 Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni.

22 Cymer y gyfraith, atolwg, o'i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon.

23 Os dychweli at yr Hollalluog, ti a adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai.

24 Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd.

25 A'r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian.

26 Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at Dduw.

27 Ti a weddïi arno ef, ac efe a'th wrendy; a thi a deli dy addunedau.

28 Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a'r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.

29 Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.

30 Efe a wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42