Job 36 BWM

1 Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd,

2 Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw.

3 O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i'm Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder.

4 Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi.

5 Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe.

6 Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i'r trueiniaid.

7 Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a'u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir.

8 Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder;

9 Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a'u hanwireddau, amlhau ohonynt:

10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd.

11 Os gwrandawant hwy, a'i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.

12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth.

13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt.

14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a'u bywyd gyda'r aflan.

15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder.

16 Felly hefyd efe a'th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster.

17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot.

18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â'i ddyrnod: yna ni'th wared iawn mawr.

19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth.

20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle.

21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd.

22 Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe?

23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd?

24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion.

25 Pob dyn a'i gwêl; a dyn a'i cenfydd o bell.

26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.

27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth;

28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth.

29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?

30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr.

31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth.

32 Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt.

33 Ei dwrf a fynega amdano, a'r anifeiliaid am y tarth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42