Job 20 BWM

1 Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd,

2 Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf.

3 Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb.

4 Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear,

5 Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?

6 Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i'r nefoedd, a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd y cymylau;

7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?

8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.

9 Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono.

10 Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.

11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.

12 Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;

13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:

14 Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o'i fewn ef.

15 Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tyn allan o'i fol ef.

16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef.

17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.

18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.

19 Am iddo ddryllio, a gado'r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;

20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o'r hyn a ddymunodd.

21 Ni bydd gweddill o'i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.

22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.

23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a'i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.

24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a'r bwa dur a'i trywana ef.

25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corff, a gloywlafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno.

26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a'i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.

27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a'r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.

28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.

29 Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a'r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42