Job 4 BWM

1 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd,

2 Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion?

3 Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu.

4 Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu.

5 Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist.

6 Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a'th obaith?

7 Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith?

8 Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a'u medant.

9 Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant.

10 Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd.

11 Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd.

12 Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a'm clust a dderbyniodd ychydig ohono.

13 Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion,

14 Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i'm holl esgyrn grynu.

15 Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll.

16 Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd,

17 A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na'i wneuthurwr?

18 Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd:

19 Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â'u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20 O'r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried.

21 Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42