Job 40 BWM

1 Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,

2 Ai dysgeidiaeth yw ymryson â'r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

3 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

4 Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.

5 Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

6 A'r Arglwydd a atebodd Job allan o'r corwynt, ac a ddywedodd,

7 Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.

8 A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i'th gyfiawnhau dy hun?

9 A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â'th lais fel yntau?

10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.

11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.

12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.

13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.

14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.

15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.

16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a'i nerth ym mogel ei fol.

17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.

18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.

19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a'i gwnaeth a all beri i'w gleddyf nesáu ato ef.

20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.

22 Coed cysgodfawr a'i gorchuddiant â'u cysgod: helyg yr afon a'i hamgylchant.

23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe'r Iorddonen i'w safn.

24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42