Job 34 BWM

1 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,

2 Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch.

3 Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd.

4 Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda.

5 Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a Duw a ddug ymaith fy marn.

6 A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd.

7 Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr?

8 Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol.

9 Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw.

10 Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.

11 Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.

12 Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn.

13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?

14 Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a'i anadl ef;

15 Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i'r pridd.

16 Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.

17 A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?

18 A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?

19 Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.

20 Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a'r cadarn a symudir heb waith llaw.

21 Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.

22 Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.

23 Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw.

24 Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.

25 Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.

26 Efe a'u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:

27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o'i ffyrdd ef:

28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.

29 Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig:

30 Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.

31 Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;

32 Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.

33 Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a'i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.

34 Gwŷr call, dywedant i mi; a'r gŵr doeth, clywed fi.

35 Job a ddywedodd yn annoeth; a'i eiriau ydynt heb ddoethineb.

36 Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.

37 Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42