Job 30 BWM

1 Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid.

2 I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy.

3 Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i'r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt:

4 Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt.

5 Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;)

6 I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau.

7 Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl.

8 Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na'r ddaear oeddynt.

9 Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt.

10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb.

11 Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a'm cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i.

12 Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i'm herbyn ffyrdd eu dinistr.

13 Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt.

14 Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith.

15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a'm hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl.

16 Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof.

17 Y nos y tyllir fy esgyrn o'm mewn: a'm gïau nid ydynt yn gorffwys.

18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a'm hamgylcha fel coler fy mhais.

19 Efe a'm taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw.

20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf.

21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law.

22 Yr wyt yn fy nyrchafu i'r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd.

23 Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.

24 Diau nad estyn ef law i'r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef.

25 Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog?

26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth.

27 Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a'm rhagflaenasant.

28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa.

29 Yr ydwyf yn frawd i'r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys.

30 Fy nghroen a dduodd amdanaf, a'm hesgyrn a losgasant gan wres.

31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a'm horgan fel llais rhai yn wylo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42