Job 29 BWM

1 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd,

2 O na bawn i fel yn y misoedd o'r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi;

3 Pan wnâi efe i'w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;

4 Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell;

5 Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a'm plant o'm hamgylch;

6 Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!

7 Pan awn i allan i'r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,

8 Llanciau a'm gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.

9 Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.

10 Pendefigion a dawent â sôn, a'u tafod a lynai wrth daflod eu genau.

11 Pan y'm clywai clust, hi a'm bendithiai; a phan y'm gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:

12 Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.

13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.

14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a'm barn fyddai fel mantell a choron.

15 Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff.

16 Tad oeddwn i'r anghenog; a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.

17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o'i ddannedd ef.

18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.

19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a'r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.

20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a'm bwa a adnewyddai yn fy llaw.

21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor.

22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a'm hymadrodd a ddiferai arnynt hwy.

23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law.

24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.

25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42