Job 41 BWM

1 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?

2 A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd?

3 A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?

4 A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?

5 A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i'th lancesau?

6 A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?

7 A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?

8 Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.

9 Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?

10 Nid oes neb mor hyderus â'i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?

11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw.

12 Ni chelaf ei aelodau ef, na'i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef.

13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â'i ffrwyn ddauddyblyg?

14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef.

15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.

16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.

17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.

18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a'i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.

19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o'i enau ef.

20 Mwg a ddaw allan o'i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.

21 Ei anadl a wna i'r glo losgi, a fflam a ddaw allan o'i enau.

22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o'i flaen ef.

23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.

24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o'r maen isaf i felin.

25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt.

26 Cleddyf yr hwn a'i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na'r llurig.

27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.

28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.

29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.

30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.

31 Efe a wna i'r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.

32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.

33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.

34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42