Job 16 BWM

1 Ajob a atebodd ac a ddywedodd,

2 Clywais lawer o'r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.

3 Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb?

4 Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i'ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.

5 Ond mi a'ch cryfhawn chwi â'm genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.

6 Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?

7 Ond yn awr efe a'm blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa:

8 A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a'm culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

9 Yn ei ddicllondeb y'm rhwyga yr hwn a'm casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.

10 Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.

11 Duw a'm rhoddes i'r anwir; ac a'm trodd i ddwylo yr annuwiolion.

12 Yr oeddwn yn esmwyth; ond efe a'm drylliodd, ac a ymaflodd yn fy ngwddf, ac a'm drylliodd yn chwilfriw, ac a'm cododd yn nod iddo ei hun.

13 Ei saethyddion ef sydd yn fy amgylchu; y mae efe yn hollti fy arennau, ac nid ydyw yn arbed; y mae yn tywallt fy mustl ar y ddaear.

14 Y mae yn fy rhwygo â rhwygiad ar rwygiad: y mae efe yn rhedeg arnaf fel cawr.

15 Gwnïais sachlen ar fy nghroen, a halogais fy nghorn yn y llwch.

16 Fy wyneb sydd fudr gan wylo, a chysgod marwolaeth sydd ar fy amrantau:

17 Er nad oes gamwedd yn fy nwylo; a bod fy ngweddi yn bur.

18 O ddaearen, na orchuddia fy ngwaed, ac na fydded lle i'm gwaedd.

19 Wele hefyd yn awr fy nhyst yn y nefoedd; a'm tystiolaeth yn yr uchelder.

20 Fy nghyfeillion sydd yn fy ngwawdio: fy llygad a ddiferodd ddagrau wrth Dduw.

21 O na châi un ymddadlau â Duw dros ddyn, fel mab dyn dros ei gymydog!

22 Canys pan ddêl ychydig flynyddoedd, yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42