Job 8 BWM

1 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,

2 Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf?

3 A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder?

4 Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd;

5 Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog;

6 Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus.

7 Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr.

8 Oblegid gofyn, atolwg, i'r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt:

9 (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:)

10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o'u calon?

11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr?

12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn.

13 Felly y mae llwybrau pawb a'r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr:

14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef.

15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery.

16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan.

17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig.

18 Os diwreiddia efe ef allan o'i le, efe a'i gwad ef, gan ddywedyd, Ni'th welais.

19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o'r ddaear y blagura eraill.

20 Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus;

21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a'th wefusau â gorfoledd.

22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42