Job 14 BWM

1 Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul.

2 Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe â gilia fel cysgod, ac ni saif.

3 A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi?

4 Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.

5 Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt:

6 Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod.

7 Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu.

8 Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd;

9 Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn.

10 Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae?

11 Fel y mae dyfroedd yn pallu o'r môr, a'r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu:

12 Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o'u cwsg.

13 O na chuddit fi yn y bedd! na'm cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a'm cofio!

14 Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.

15 Gelwi, a myfi a'th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo.

16 Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod?

17 Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.

18 Ac yn wir, y mynydd a syrthio a ddiflanna; a'r graig a symudir o'i lle.

19 Dyfroedd a dreuliant y cerrig; yr wyt yn golchi ymaith y pethau sydd yn tyfu o bridd y ddaear, ac yn gwneuthur i obaith dyn golli.

20 Yr wyt yn ei orchfygu ef yn dragywydd, fel yr elo ymaith: a chan newidio ei wyneb ef, yr wyt yn ei ddanfon ef i ffordd.

21 Ei feibion ef a ddaw i anrhydedd, ac nis gwybydd efe: a hwy a ostyngir, ac ni ŵyr efe oddi wrthynt:

22 Ond ei gnawd arno a ddoluria, a'i enaid ynddo a alara.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42