Job 7 BWM

1 Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?

2 Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith:

3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi.

4 Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd.

5 Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd.

6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith.

7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach.

8 Y llygad a'm gwelodd, ni'm gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf.

9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i'r bedd, ni ddaw i fyny mwyach.

10 Ni ddychwel mwy i'w dŷ: a'i le nid edwyn ef mwy.

11 Gan hynny ni warafunaf i'm genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid.

12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf?

13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a'm cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan;

14 Yna y'm brawychi â breuddwydion, ac y'm dychryni â gweledigaethau:

15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na'm hoedl.

16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau.

17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno?

18 Ac ymweled ag ef bob bore, a'i brofi ar bob moment?

19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn?

20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun?

21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a'm ceisi yn fore, ond ni byddaf.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42