Job 27 BWM

1 A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd,

2 Y mae Duw yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a'r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid;

3 Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau;

4 Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd, ac ni thraetha fy nhafod dwyll.

5 Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.

6 Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw.

7 Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a'r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.

8 Canys pa obaith sydd i'r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan?

9 A wrendy Duw ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno?

10 A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar Dduw bob amser?

11 Myfi a'ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda'r Hollalluog.

12 Wele, chwychwi oll a'i gwelsoch; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?

13 Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw; ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog.

14 Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i'r cleddyf: a'i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.

15 Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a'i wragedd gweddwon nid wylant.

16 Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai;

17 Efe a'i darpara, ond y cyfiawn a'i gwisg: a'r diniwed a gyfranna yr arian.

18 Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr.

19 Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw.

20 Dychryniadau a'i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a'i lladrata ef liw nos.

21 Y dwyreinwynt a'i cymer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; ac a'i teifl ef fel corwynt allan o'i le.

22 Canys Duw a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef.

23 Curant eu dwylo arno, ac a'i hysiant allan o'i le.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42