Job 32 BWM

1 Felly y tri gŵr yma a beidiasant ag ateb i Job, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

2 Yna digofaint Elihu, mab Barachel y Busiad, o genedl Ram, a gyneuodd: ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Job, am farnu ohono ei enaid yn gyfiawn o flaen Duw.

3 A'i ddigofaint ef a gyneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy ateb, ac er hynny, farnu ohonynt Job yn euog.

4 Elihu hefyd a arosasai ar Job nes darfod iddo lefaru: canys yr oeddynt hwy yn hŷn nag ef o oedran.

5 Pan welodd Elihu nad oedd ateb gan y triwyr hyn, yna y cyneuodd ei ddigofaint ef.

6 Ac Elihu, mab Barachel y Busiad, a atebodd ac a ddywedodd, Ieuanc ydwyf o oedran, chwithau ydych hen iawn: am hynny yr arswydais, ac yr ofnais ddangos fy meddwl i chwi.

7 Dywedais, Dyddiau a draethant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb.

8 Ond y mae ysbryd mewn dyn; ac ysbrydoliaeth yr Hollalluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

9 Nid yw gwŷr mawrion ddoeth bob amser: ac nid yw hynafgwyr yn deall barn.

10 Am hynny y dywedais, Gwrando fi; minnau a ddangosaf fy meddwl.

11 Wele, disgwyliais wrth eich geiriau; clustymwrandewais â'ch rhesymau, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

12 Ie, mi a ddeliais arnoch: ac wele, nid oedd un ohonoch yn argyhoeddi Job, gan ateb ei eiriau ef:

13 Rhag dywedyd ohonoch, Ni a gawsom ddoethineb: Duw sydd yn ei wthio ef i lawr, ac nid dyn.

14 Er na hwyliodd efe ei ymadroddion yn fy erbyn i: ac nid atebaf finnau iddo â'ch geiriau chwi.

15 Hwy a synasant, nid atebasant mwy; peidiasant â llefaru.

16 Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)

17 Dywedais, Minnau a atebaf fy rhan, minnau a ddangosaf fy meddwl.

18 Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i.

19 Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion.

20 Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau, ac atebaf.

21 Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb: ni wenieithiaf wrth ddyn.

22 Canys ni fedraf wenieithio; pe gwnelwn, buan y'm cymerai fy Ngwneuthurwr ymaith.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42