Job 21 BWM

1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur.

3 Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch.

4 A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd?

5 Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau.

6 Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.

7 Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?

8 Eu had hwy sydd safadwy o'u blaen gyda hwynt, a'u hiliogaeth yn eu golwg.

9 Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy.

10 Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla.

11 Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a'u bechgyn a neidiant.

12 Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ.

13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i'r bedd.

14 Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.

15 Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno?

16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.

17 Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig.

18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia'r corwynt.

19 Duw a guddia ei anwiredd ef i'w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a'i gwybydd.

20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog.

21 Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?

22 A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel.

23 Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl.

24 Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a'i esgyrn yn iraidd gan fêr.

25 A'r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch.

26 Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a'r pryfed a'u gorchuddia hwynt.

27 Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a'r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn.

28 Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion?

29 Oni ofynasoch chwi i'r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy,

30 Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan.

31 Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?

32 Eto efe a ddygir i'r bedd, ac a erys yn y pentwr.

33 Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o'i flaen ef.

34 Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42