Job 19 BWM

1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2 Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y'm drylliwch â geiriau?

3 Dengwaith bellach y'm gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i'm herbyn.

4 Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd.

5 Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i'm herbyn:

6 Gwybyddwch yn awr mai Duw a'm dymchwelodd i, ac a'm hamgylchodd â'i rwyd.

7 Wele, llefaf rhag trawster, ond ni'm hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn.

8 Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau.

9 Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen.

10 Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren.

11 Gwnaeth hefyd i'w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a'm cyfrifodd iddo fel un o'i elynion.

12 Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13 Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a'r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf.

14 Fy nghyfnesaf a ballasant, a'r rhai oedd o'm cydnabod a'm hanghofiasant.

15 Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a'm morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg.

16 Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â'm genau.

17 Dieithr oedd fy anadl i'm gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o'm corff.

18 Plant hefyd a'm diystyrent: cyfodais, a dywedasant i'm herbyn.

19 Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a'r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn.

20 Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais.

21 Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi.

22 Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd?

23 O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr!

24 O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm!

25 Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear.

26 Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha'r corff hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd:

27 Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a'm llygaid a'i gwelant, ac nid arall; er i'm harennau ddarfod ynof.

28 Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof.

29 Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40 41 42