1 Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a'i clywodd ac a'i deallodd.
2 Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau.
3 Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw.
4 Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll.
5 O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb.
6 Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau.
7 A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef?