11 Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch?
12 Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a'ch cyrff i gyrff o glai.
13 Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo.
14 Paham y cymeraf fy nghnawd â'm dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw?
15 Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef.
16 Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef.
17 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â'ch clustiau.