18 Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y'm cyfiawnheir.
19 Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.
20 Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.
21 Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi.
22 Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi.
23 Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a'm pechod.
24 Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti?