20 Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot.
21 Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi.
22 Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi.
23 Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a'm pechod.
24 Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti?
25 A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych?
26 Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid.