3 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i'w ddifa ef heb achos?
4 A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Croen am groen, a'r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes.
5 Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â'i esgyrn ef ac â'i gnawd, ac efe a'th felltithia di o flaen dy wyneb.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef.
7 Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun.
8 Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.
9 Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia Dduw, a bydd farw.