16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef.
17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.
19 Am iddo ddryllio, a gado'r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;
20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o'r hyn a ddymunodd.
21 Ni bydd gweddill o'i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.
22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.