19 Am iddo ddryllio, a gado'r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;
20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o'r hyn a ddymunodd.
21 Ni bydd gweddill o'i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.
22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.
23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a'i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.
24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a'r bwa dur a'i trywana ef.
25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corff, a gloywlafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno.