24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a'r bwa dur a'i trywana ef.
25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o'r corff, a gloywlafn a ddaw allan o'i fustl ef; dychryn fydd arno.
26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a'i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.
27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a'r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.
28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.
29 Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a'r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.