5 Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr?
6 Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i'r nefoedd, a chyrhaeddyd o'i ben ef hyd y cymylau;
7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?
8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.
9 Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono.
10 Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.
11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.