7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a'i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe?
8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos.
9 Y llygad a'i gwelodd, ni wêl ef mwy: a'i le ni chenfydd mwy ohono.
10 Ei feibion a gais fodloni'r tlodion: a'i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt.
11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd.
12 Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod;
13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau: