1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2 Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na'm huchenaid.
3 O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef!
4 Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau.
5 Mynnwn wybod â pha eiriau y'm hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.
6 A ddadlau efe i'm herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.
7 Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.