12 Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na'm hymborth angenrheidiol.
13 Ond y mae efe yn un, a phwy a'i try ef? a'r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a'i gwna.
14 Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o'r fath bethau.
15 Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.
16 Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a'r Hollalluog a'm cythryblodd:
17 Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o'm gŵydd.