1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,
2 Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di‐nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?
3 Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?
4 Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?
5 Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.
6 Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.
7 Y mae efe yn taenu'r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi'r ddaear ar ddiddim.