3 Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?
4 Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?
5 Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a'r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.
6 Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.
7 Y mae efe yn taenu'r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi'r ddaear ar ddiddim.
8 Y mae efe yn rhwymo'r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.
9 Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.