6 Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.
7 Y mae efe yn taenu'r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi'r ddaear ar ddiddim.
8 Y mae efe yn rhwymo'r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.
9 Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.
10 Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.
11 Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.
12 Efe a ranna y môr â'i nerth; ac a dery falchder â'i ddoethineb.