15 Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.
16 Ni chyffelybir hi i'r aur o Offir; nac i'r onics gwerthfawr, nac i'r saffir.
17 Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.
18 Ni chofir y cwrel, na'r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.
19 Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.
20 Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?
21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.