19 Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.
20 Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?
21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.
22 Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â'n clustiau sôn amdani hi.
23 Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.
24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;
25 I wneuthur pwys i'r gwynt; ac efe a bwysa'r dyfroedd wrth fesur.