2 Haearn a dynnir allan o'r pridd; ac o'r garreg y toddir pres.
3 Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.
4 Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.
5 Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.
6 Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.
7 Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:
8 Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.