22 Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â'n clustiau sôn amdani hi.
23 Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.
24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;
25 I wneuthur pwys i'r gwynt; ac efe a bwysa'r dyfroedd wrth fesur.
26 Pan wnaeth efe ddeddf i'r glaw, a ffordd i fellt y taranau:
27 Yna efe a'i gwelodd hi, ac a'i mynegodd hi; efe a'i paratôdd hi, a hefyd efe a'i chwiliodd hi allan.
28 Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.