8 Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.
9 Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.
10 Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.
11 Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.
12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?
13 Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.
14 Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.