26 Efe a weddïa ar Dduw, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.
27 Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;
28 Efe a wared ei enaid ef rhag myned i'r clawdd, a'i fywyd a wêl oleuni.
29 Wele, hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn,
30 I ddwyn ei enaid ef o'r pwll, i'w oleuo â goleuni y rhai byw.
31 Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.
32 Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di.