4 Myfi a atebaf i ti, ac i'th gyfeillion gyda thi.
5 Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.
6 Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?
7 Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?
8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.
9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i'r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.
10 Ond ni ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?