8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.
9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i'r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.
10 Ond ni ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a'm gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?
11 Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.
12 Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.
13 Diau na wrendy Duw oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno.
14 Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.