11 A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?
12 A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i'th lawr dyrnu di?
13 A roddaist ti adenydd hyfryd i'r peunod? neu adenydd a phlu i'r estrys?
14 Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a'u cynhesa yn y llwch;
15 Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.
16 Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;
17 Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.