23 Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a'r darian.
24 Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr utgorn yw.
25 Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a'r bloeddio.
26 Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua'r deau?
27 Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel?
28 Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a'r lle cadarn?
29 Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell.