3 Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â'u gofid.
4 Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy.
5 Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt?
6 Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo, a'r diffeithwch yn drigfa iddo.
7 Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.
8 Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.
9 A gytuna yr unicorn i'th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?