6 Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo, a'r diffeithwch yn drigfa iddo.
7 Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad.
8 Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.
9 A gytuna yr unicorn i'th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?
10 A rwymi di unicorn â'i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?
11 A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?
12 A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i'th lawr dyrnu di?