11 Yna ei holl geraint, a'i holl garesau, a phawb o'i gydnabod ef o'r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a'i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.
12 Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na'i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.
13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.
14 Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc.
15 Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a'u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.
16 A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o'i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.
17 Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.